Ranger Welsh Essential
About the company
What it's like to work here O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi’i leoli yn Nant Ffrancon ger Bethesda. Mae’r ardal y byddwch yn gweithio ynddi mor brydferth, ond gall y tywydd yn y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn, felly rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, ac yn barod i addasu eich cynlluniau i gyd-fynd â thywydd y diwrnod.
The package Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
Your tasks
Ceidwad Rydym yn chwilio am geidwad i helpu i ofalu am dirwedd fynyddig eang y Carneddau a’r Glyderau, sy’n ymestyn dros 21,000 erw. Yn y swydd hon, byddwch yn eiriolwr dros gadwraeth natur a’r awyr agored, gan chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod y dirwedd drawiadol hon yn aros mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol.
Fel Ceidwad, byddwch yn helpu i ddiogelu a gofalu am gynefinoedd, bywyd gwyllt, adeiladau a pheiriannau. Byddwch yn sicrhau bod y gwaith cadwraeth a’r profiadau awyr agored ar y tir sydd dan eich gofal o'r ansawdd uchaf.
Byddwch yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni tasgau ymarferol i gynnal a chadw’r ystad ac adfer natur ar draws y Carneddau a’r Glyderau. O godi ffensys a waliau cerrig sych i osod/trwsio giatiau a chamfeydd, ac o weithredu a chynnal peiriannau fel tractorau a llif gadwyni i blannu coed, ni fydd dau ddiwrnod fel ei gilydd. Byddwch hefyd yn arolygu offer cefn gwlad, gan gynnwys pontydd, camfeydd a giatiau, gan helpu i nodi lle mae angen gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio.
Yn achlysurol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau addysgol a gwirfoddol i gyflawni amrywiaeth o dasgau cadwraeth, fel rheoli eithin a rhedyn neu blannu coed. Byddwch yn trosglwyddo eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i annog eraill i fwynhau’r ardal hon gymaint ag yr ydych chi, a phryd bynnag a lle bynnag y byddwch yn dod ar draws pobl, byddwch yn cymryd yr amser i sgwrsio â nhw ac ateb eu cwestiynau, yn hytrach na rhuthro i ffwrdd at y dasg nesaf.
Requirements
The ability to communicate in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 4 in speaking and listening, and Level 2 in reading and writing. Please assess your level against the attached Welsh Language Competency Matrix.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg, felly mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. Rydym yn cydnabod bod taith iaith pawb yn wahanol, felly byddwn y eich cefnogi i barhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder ac i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’ch gwaith bob dydd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Who we're looking for Byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu os ydych yn:
- brofiadol yn gweithio yn yr awyr agored i reoli tir a mynediad, cefnogi cadwraeth, a diogelu a gwella tirweddau a chynefinoedd
- profiadol yn gyrru tractorau ar dir amrywiol a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol
- gallu defnyddio peirianwaith ac offer, gyda thystysgrifau perthnasol
- hapus i siarad â phob math o bobl am y gwaith rydych chi’n ei wneud a pham ei fod yn bwysig
- gweithgar ac yn awyddus i ddysgu
- gallu gweithio’n ddiogel, gan ddefnyddio asesiadau risg a dilyn canllawiau
- gyrrwr gyda thrwydded yrru lawn y DU
What we offer
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.
Other
*Cyflog: £27,612 y flwyddyn *Hyd y Contract: Parhaol Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Wythnos waith arferol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4am, ond efallai y gofynnwn i chi weithio ar benwythnosau, gwyliau banc a gyda’r nos yn achlysurol.
Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi feddu ar yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; rhoi darlun llawn o’r hyn sy’n bosibl yn y swydd hon y mae’r rhestr honno.?